Rhif y ddeiseb: P-06-1380

Teitl y ddeiseb: Bathodyn glas gydol oes i unigolion sydd â diagnosis gydol oes

Geiriad y ddeiseb:  Nid yw pob anabledd yr un fath, mae rhai yn para gydol oes, sy'n golygu nad ydynt yn newid dros amser.

Yn anffodus, mae’r canllawiau presennol yn ei gwneud yn ofynnol i unigolion sydd â diagnosis gydol oes, sy'n cynnwys anableddau dysgu neu anghenion dwys a chymhleth, ailymgeisio am fathodyn glas bob tair blynedd. Gall y broses hon fod yn rhwystredig iawn, mae’n cymryd llawer o amser i unigolion a'u gofalwyr ei chwblhau ac mae’n canolbwyntio ar agweddau negyddol ar allu unigolyn.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio anabledd fel nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith niweidiol sylweddol a hirdymor ar allu unigolyn i ymgymryd â gweithgareddau o ddydd i ddydd. Mae’n nodi y caniateir i bobl ag anableddau gael eu trin yn fwy ffafriol ar sail y dystiolaeth a gyflwynir, i sicrhau cyfle cyfartal.

Credwn y dylid diweddaru'r broses i roi mwy o gymorth i’r rhai ag anableddau drwy wneud bywyd yn haws i'r rhai sydd â chyflyrau gydol oes.

 

Rydym, gan hynny, yn cynnig newid, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid y broses bresennol o wneud cais am fathodyn glas, i roi'r hyn sy'n iawn i bobl anabl a’u cynorthwyo.

Byddai’r newid hwn yn caniatáu i bobl gael bathodyn glas sy’n para gydol oes os oes ganddynt gyflwr meddygol gydol oes nad oes disgwyl iddo wella, ac os yw eu nodiadau iechyd cysylltiedig yn cadarnhau hynny.

 


1.        Y cefndir

Cyflwynwyd y cynllun Bathodyn Glas (Parcio Personau Anabl) ym 1971 o dan adran 21 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970. Yn 2000, cafodd y cynllun Bathodynnau Glas ar gyfer pobl anabl ei gyflwyno yng Nghymru drwy Reoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2000.

Mae'r cynllun Bathodyn Glas yn darparu trefniadau cenedlaethol ar gyfer cynnig consesiynau parcio i bobl sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ac mae’n gweithredu ledled y DU. Mae Bathodynnau Glas ar gael am ddim yng Nghymru. Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y cynllun, ac awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am weinyddu a gorfodi'r cynllun o ddydd i ddydd.

Yn ôl canllawiau’r cynllun Bathodyn Glas, gall unigolyn yng Nghymru fod yn gymwys i gael Bathodyn Glas os yw’n perthyn i un o'r categorïau a ganlyn:

§  Cymwys yn awtomatig – gall unigolyn fod yn gymwys am fathodyn heb fod angen asesiad os yw’n derbyn budd-dal anabledd a restrir neu os oes ganddo nam ar ei olwg.

§  Cymwys yn ôl disgresiwn – gall amgylchiadau penodol wneud unigolyn yn gymwys er nad yw’n derbyn y budd-daliadau a restrir.

§  Cymwys dros dro – caiff unigolyn wneud cais am fathodyn 12 mis dros dro os yw’n aros am driniaeth ar gyfer salwch neu anaf difrifol neu’n gwella ar ôl salwch neu anaf difrifol.

Mae Bathodynnau Glas yn ddilys am hyd at 3 blynedd. Rhaid i ddeiliaid cofrestredig Bathodyn Glas ailymgeisio hyd at 12 wythnos cyn i gyfnod y Bathodyn Glas presennol ddod i ben. Gweinyddir y broses ymgeisio hon gan awdurdodau lleol, neu gall ymgeiswyr wneud cais ar-lein drwy'r Gwasanaeth Digidol Bathodyn Glas. Mae gwasanaeth digidol hwn wedi bod ar gael ers mis Chwefror 2019.

 

2.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Ym mis Ebrill 2019, cynhaliodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ymchwiliad i drefniadau cymhwysedd a gweithrediad y cynllun Bathodyn Glas yng Nghymru. Yn ystod yr ymchwiliad, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth y gall y broses adnewyddu beri straen mawr i bobl sy'n dibynnu ar y bathodyn, ac mae hyn yn arbennig o wir yn achos unigolion sydd â chyflyrau iechyd gydol oes neu gyflyrau dirywiol.

Mewn tystiolaeth i’r Pwyllgor, tynnodd Anabledd Cymru a Chymdeithas Alzheimer’s Cymru sylw at anghysondebau yn y broses ailymgeisio, gyda rhai ymgeiswyr â chyflyrau iechyd gydol oes yn gorfod cael asesiad llawn wrth wneud cais i adnewyddu. Roedd adroddiad y Pwyllgor yn cynnwys yr argymhelliad a ganlyn:

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddatblygu proses i alluogi’r rheini sy’n dioddef o gyflwr gydol oes neu ddirywiol i adnewyddu eu bathodyn glas yn awtomatig, heb asesiad pellach.

Gwrthododd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn. Derbyniodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth fod proses ailymgeisio lawn ar gyfer deiliaid bathodynnau cymwys yn 'faich', ond dadleuodd fod y gwasanaeth digidol wedi 'ychwanegu adran at y system lle gall awdurdodau lleol nodi bod bathodyn glas wedi'i roi am oes ac nad oes angen felly cynnal ail asesiad.' Dywedodd y Gweinidog y byddai Llywodraeth Cymru yn 'atgoffa awdurdodau lleol am yr adran newydd hon.'

 

3.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Ers 2002, mae’r cynllun Bathodyn Glas wedi bod yn destun nifer o adolygiadau, ymgynghoriadau ac adroddiadau sydd wedi edrych ar wahanol agweddau ar y cynllun. Yn fwyaf diweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud y gwaith a ganlyn i adolygu a diweddaru’r ffordd y caiff y cynllun Bathodyn Glas ei weinyddu yng Nghymru:

§  Cynhaliwyd ymgynghoriadau cyhoeddus ar newidiadau i'r cynllun yn 2008, 2010, 2011, 2012, 2013 a 2016.

§  Sefydlwyd dau grŵp arbenigol yn 2013 a 2015 i drafod ffyrdd o wella'r cynllun.

§  Cafodd y meini prawf cymhwysedd eu diwygio diwethaf yn 2017, pan gafodd meini prawf ynghylch namau gwybyddol a namau dros dro eu cynnwys.

Mewn gohebiaeth i'r Pwyllgor, dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, 'Mae'r meini prawf cymhwystra statudol yn seiliedig ar rwystrau symudedd yn unol â'r model cymdeithasol o anabledd fel y'i mabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru.' Ychwanegodd, 'Mae meini prawf cymhwystra Cymru ymhlith y mwyaf cynhwysol yn y DU.'

Ers cyflwyno’r gwasanaeth digidol, pan fydd awdurdod lleol yn fodlon y bydd ymgeisydd yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd yn barhaol, gellir ychwanegu nodyn at ei gofnod digidol i nodi bod Bathodyn Glas wedi’i ddyfarnu am oes ac i gwtogi’r broses adnewyddu. Bydd yn rhaid i’r unigolion sy'n destun y broses symlach hon barhau i ailymgeisio am Fathodyn Glas bob 3 blynedd, ond ni fydd yn rhaid iddynt fynd trwy ailasesiad llawn.

Yn ei lythyr at y Pwyllgor, dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd fod y broses ailymgeisio hon yn 'hanfodol' i wirio hunaniaeth ymgeiswyr a lle maen nhw’n byw, yn ogystal â diogelu ‘rhag ceisiadau twyllodrus a cham-drin y cynllun.' Ychwanegodd:

Pe bai bathodynnau'n cael eu rhoi am gyfnod hirach, yna byddai rhagor o gyfle i bobl gamddefnyddio a cham-drin y cynllun hwn, sy'n bryder y mae Archwilio Cymru wedi'i fynegi yn flaenorol.

Mae Archwilio Cymru yn monitro camddefnydd o'r cynllun Bathodyn Glas fel rhan o'r Fenter Twyll Genedlaethol. Trwy’r Fenter Twyll Genedlaethol, gellir nodi pan fo Bathodyn Glas yn cael ei ddefnyddio neu ei adnewyddu ar ôl i'r deiliad cofrestredig farw. Nododd Menter Twyll Genedlaethol 2020-21 2,717 o achosion o gamddefnyddio Bathodynnau Glas. Mae Archwilio Cymru yn amcangyfrif mai cost yr achosion hyn yw £1.4 miliwn, yn seiliedig ar 'gyfrifiad o’r gost amcangyfrifedig flynyddol o refeniw parcio a gollir a’r tebygolrwydd y bydd y bathodynnau glas hyn yn cael eu camddefnyddio.'

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.